Bwrdd Taliadau |
Lleoliad: |
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Gwener, 21 Mawrth 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
08.45 - 14.30 |
|
|||
|
|
||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: WRB(24) |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Sandy Blair CBE DL (Cadeirydd) Mary Carter Stuart Castledine Monojit Chatterji |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Hannah Beacham, Wragge & Co Richard Bettley Paul Carberry, Wragge & Co Carys Evans, Prif Ysgrifennydd y Comisiwn Charles Willie, Diverse Cymru Gareth Watts John Chick, Cynulliad Cenedlaethol Cymru Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Anna Daniel, Clerc y Pwyllgor Busnes Dominic Houlihan Hannah Johnson Holly Pembridge, Rheolwr Cydraddoldebau Matthew Richards |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Gareth Price (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad y Cadeirydd
1.1 Croesawodd y Cadeirydd y Bwrdd
i’r cyfarfod.
1.2 Adolygwyd cofnodion y cyfarfod ar 31 Ionawr 2014 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
2 Materion i wneud penderfyniad yn eu cylch yn sgîl ymatebion i'r ymgynghoriad
2.1 Nododd y Bwrdd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn dilyn cyfarfod y Bwrdd ar 31 Ionawr 2014.
2.1 Cyflogau Aelodau'r Cynulliad ar gyfer pumed flwyddyn y Pedwerydd Cynulliad
2.2 Ystyriodd y Bwrdd yr hyn a gyflwynwyd gan Aelodau'r Cynulliad a chytunodd y dylai cyflogau Aelodau'r Cynulliad ar gyfer blwyddyn olaf y Pedwerydd Cynulliad gynyddu 1% yn unol â pholisïau cyflog yn y sector cyhoeddus.
2.2 Cyflogau staff cymorth Aelodau’r Cynulliad – dyfarniad cyflog 2014–15
2.3 Ystyriodd y Bwrdd yr hyn a gyflwynwyd gan staff cymorth Aelodau'r Cynulliad ac Aelodau'r Cynulliad a chytunodd y bydd staff cymorth yn cael cynnydd o 1% mewn cyflog yn ystod blwyddyn 2014-15, yn unol â pholisïau cyflog yn y sector cyhoeddus. Cytunodd y Bwrdd y byddai'n edrych yn fanylach ar y materion allweddol canlynol sy'n codi o'r ymgynghoriad fel rhan o'i waith yn y dyfodol:
- A ddylai staff cymorth Aelodau'r Cynulliad fod yn gymwys ar gyfer buddion marwolaeth mewn gwasanaeth
- Dileu swydd a pharhad cyflogaeth
- Gwyliau a dyddiau disgresiwn
- Cyfraniadau pensiwn.
2.3 Newidiadau posibl i’r darpariaethau trosiannol – y grant ailsefydlu ar ôl 2016, eiddo dan forgais
2.4 Ystyriodd y Bwrdd yr hyn a
gyflwynwyd gan Aelodau'r Cynulliad a chytunodd i gynyddu'r
ad-daliad uchaf ar gyfer llety preswyl ar gyfer yr Aelodau hynny
sy'n byw yn yr Ardal Allanol o £700 i £735 y mis. Bydd
costau swyddfa yn cynyddu yn unol â rhagolwg y Swyddfa
Cyfrifoldeb Cyllidebol o Fynegai Prisiau Defnyddwyr (1.9%).
2.5 Cytunodd y Bwrdd i gael gwared ar y grant ymaddasu i Aelodau a etholwyd cyn 2011 sy'n dewis rhoi'r gorau iddi mewn dau gam.
3 Materion i benderfynu ac ymgynghori yn eu cylch: Pensiynau
Adolygiad o'r gwaith hyd yma
3.1 Trafododd y Bwrdd ei gynnydd o ran gweithredu trefniadau pensiwn addas ar gyfer pensiynau Aelodau'r Cynulliad ar gyfer y Pumed Cynulliad, a chytunodd ar ddogfen ymgynghori gyhoeddus, a fyddai'n cael ei chyhoeddi ym mis Ebrill. Dyma fyddai'r rhan gyntaf mewn ymgynghoriad dwy ran, yn ceisio barn rhanddeiliaid am y cynllun yn gyffredinol. Bydd ail ymgynghoriad yn ddiweddarach yn y flwyddyn yn ceisio barn am gynllun mwy manwl.
Trefniadau Llywodraethu ar gyfer pensiynau Aelodau'r Cynulliad
3.2 Ystyriodd y Bwrdd bapur a baratowyd gan y Gwasanaeth Ymchwil a chytunodd i ymgynghori ag Ymddiriedolwyr ynghylch trefniadau llywodraethu ar gyfer y cynllun newydd.
Adroddiad cyfreithiol terfynol gan Wragge & Co.
3.3 Croesawodd y Bwrdd Paul Carberry,
Cyfarwyddwr, a Hannah Beacham, Uwchgyfreithiwr, Grŵp Adnoddau
Dynol, Wragge & Co. i'r cyfarfod.
3.4 Ystyriodd y Bwrdd adroddiad
cyfreithiol terfynol Wragge & Co. a chytunodd ar ei
gynnwys.
Dogfennau ymgynghori terfynol ac ymgyngoreion
3.5 Trafododd y Bwrdd y dogfennau ymgynghori drafft ar drefniadau pensiwn yr Aelodau, a ddarparwyd gan Carys Evans a Richard Bettley. Cytunodd y Bwrdd y byddai modd cyflwyno'r ymgynghoriad ar bensiynau wedi mân newidiadau a awgrymwyd gan Mary a Stuart.
4 Archwiliad o weithgareddau a chylch gwaith y Bwrdd
4.1 Gwahoddodd y Bwrdd Gareth Watts, Archwilydd Mewnol, i'r cyfarfod.
4.2 Cytunodd y Bwrdd â'r cynigion ar gyfer archwiliad mewnol a thrafododd cwmpas a methodoleg adolygiad o'r fath.
5 Strwythur staffio Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad
5.1 Ystyriodd y Bwrdd bapur ar strwythur staffio Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad, a ddarparwyd gan Gomisiwn y Cynulliad.
5.2 Cytunodd y Bwrdd y dylid cynnal adolygiad o gyflogaeth a strwythur staffio'r Staff Cymorth ar gyfer y Pumed Cynulliad.
6 Asesiad Effaith Cydraddoldeb
6.1 Croesawodd y Bwrdd Charles Willie, Cyfarwyddwr Diverse Cymru.
6.2 Cytunodd y Bwrdd y dylid cynnal Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb ar y pecyn Penderfyniad llawn ar gyfer y Pumed Cynulliad. Roedd y Bwrdd yn edrych ymlaen at adolygu cyfraniad Diverse Cymru.
Cam i’w gymryd:
· Yr ysgrifenyddiaeth i ysgrifennu at bob Aelod Cynulliad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y materion a drafodwyd a'r penderfyniadau a wnaed yn y cyfarfod hwn, ac yn gofyn iddynt ymateb i'r materion yn y nodyn.
· decisions made by the Board at this meeting and requesting a response to issues raised in the note.